Psalms 146

Moli'r Duw sy'n achub

1Haleliwia!

Mola'r Arglwydd, meddwn i wrthof fy hun!
2Dw i'n mynd i foli'r Arglwydd ar hyd fy mywyd,
a chanu mawl i'm Duw tra dw i'n bodoli!
3Paid trystio'r rhai sy'n teyrnasu –
dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub.
4Mae'r anadl yn mynd allan ohono,
ac mae'n mynd yn ôl i'r pridd;
a'r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!
5Mae'r un mae Duw Jacob yn ei helpu wedi ei fendithio'n fawr,
Yr un sy'n dibynnu ar yr Arglwydd ei Dduw,
6y Duw a wnaeth y nefoedd, y ddaear,
y môr a phopeth sydd ynddyn nhw.
Mae e bob amser yn cadw ei air,
7yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu,
a bwyd i'r rhai newynog.
Mae'r Arglwydd yn gollwng carcharorion yn rhydd.
8Mae'r Arglwydd yn rhoi eu golwg i bobl ddall.
Mae'r Arglwydd yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.
Mae'r Arglwydd yn caru'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.
9Mae'r Arglwydd yn gofalu am y mewnfudwyr
ac yn cynnal y plant amddifad a'r gweddwon.
Ond mae e'n gwneud i'r rhai drwg golli eu ffordd.
10Bydd yr Arglwydd yn teyrnasu am byth;
dy Dduw di, Seion, ar hyd y cenedlaethau.

Haleliwia!
Copyright information for CYM